Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Cwrs Hanes Cymru

gyda James Berry

Dyddiadau: Cychwyn 8fed Hydref - am 6 wythnos, yn gorffen 19ed Tachwedd (dim sesiwn 29ed Hydref).

Amser: 10:00 - 12:00

Cyfres o chwe sesiwn dwy awr a fydd yn edrych ar fywydau chwe chymeriad o Hanes Cymru. Nod y cwrs yw nid yn unig edrych ar yr effaith a gafodd pob bywyd ar hanes Cymru ond hefyd y Gymru lle cafodd pob bywyd ei fyw.

Edrychwn ar y cymeriadau canlynol

  1. Owain Gwynedd
  2. Edward y 1af
  3. Glyndŵr
  4. Catrin o Ferain
  5. Yr Esgob William Morgan.
  6. Ann Griffiths

Adult Learning Wales

Tra bod pob sesiwn yn sefyll ar ei ben ei hun, byddwn yn ymdrechu i adnabod y cysylltiadau rhwng pob bywyd.

Bydd y cwrs yma trwy gyfrwng y Gymraeg

Dilynwch y ddolen a llenwi’r ffurflen i gofrestru