Mae mynediad i’r tŷ am ddim.
Mae’r gerddi a’r caffi yn cael eu rhedeg gan gorff gwahanol i’r tŷ, sef Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis.
Plasty bychan o’r 16ed a’r 17fed ganrif yw Plas Brondanw, yng Ngogledd Meirionydd. Hwn yw prif dŷ Ystad Brondanw, a roddwyd i Clough Williams-Ellis gan ei dad yn 1908. Daeth Clough yn enwog yn hwyrach ymlaen am adeiladu pentref Portmeirion, ond mae’r gerddi a’r tirwedd o amgylch Brondanw yr un mor nodweddiadol o’i arddull, ond ar raddfa llawer llai. Mae’r tŷ a’r gerddi bellach yng ngofal ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis (YCWEF), ac mae llawer mwy o wybodaeth am eu gweithgareddau hwy i’w gael ar eu gwefan:
Mae’r tŷ ar agor dydd Mercher – dydd Sul 10:30-4:00 trwy’r flwyddyn, hefyd ar Wyliau Banc, ond rydym ar gau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae’r gerddi ar agor pob diwrnod, trwy’r flwyddyn 10-4. Pan mae’r caffi ar gau, rhaid talu am fynediad i’r bocs ar gefn y giât.
Mae’r caffi ar agor o Pasg tan ddiwedd Medi, 10-4, dydd Mawrth tan dydd Sul.
Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:
2023: Awyrol
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr