Rydym yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ceisio arddangos amrywiaeth eang o waith o’r cysyniadol i waith crefft a dylunio, ac rydym yn gweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r byd. Rydym yn arddangos gweithiau ar bob math o themâu, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy’n ymateb yn benodol i’r lleoliad a’i hanes ac i syniadau Clough ac Amabel Williams-Ellis a’u plant am am gelf, dylunio, pensaernïaeth, cymdeithas, gwleidyddiaeth, cynllunio, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu unrhyw fater arall a archwilwyd ganddynt yn eu gyrfaoedd hir ac amrywiol.
The whole section below the opening pagagraph, including the drop down sections:
Mae’r arddangosfa ‘Agored’ ac ‘Agored Ifanc’ yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un, boed artist profiadol neu rhywun sy’n rhoi troed yn y dŵr am y tro cyntaf. Byddwn yn gosod thema ar gyfer y sioeau hyn fydd yn amrywio o un blwyddyn i’r llall, ond yn seiliedig ar ddarnau o’r archif, fydd yn cael eu arddangos gyferbyn a’r gweithiau cyfoes. O fewn y rhaglen Agored, rydym yn cynnig gwobr artist sy’n dod i’r amlwg a gwobr y bobl.
Am rhagor o wybodaeth am y gwobrau, a sut i gyflwyno gwaith ar gyfer yr arddangosfeydd agored, dilynwch y ddolen i’r tudalen ‘ceisiadau’, isod.
Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr
Arddangosfa Agored Plas Brondanw 2025 - Gofod
8 Mawrth - 4 Mai 2025
Thema’r arddangosfa blwyddyn yma yw ‘Gofod’, ac mae wedi ysbrydoli ymateb amrywiol a chyffrous ymysg ein artistiaid, gyda gweithiau mewn pob cyfrwng o decstiliau a cherfluniau i beintiadau olew, ffotograffau a darluniau o bob math. Mae’r cynnwys hefyd yn amrywio o’r chwedlonol i’r gwyddonol ac o’r haniaethol i’r ffigyrol, ac mae gyda ni ddetholiad anhygoel o artistiaid profiadol a rhai newydd.
Mary Thomas: ‘Mae Pob Artist yn Wyddonydd Rhwystredig’
Ceri Pritchard – Patrwm Annisgwyl
10 Mai – 22 Mehefin 2025
Mae’r arddangosfa hon o waith newydd yn Oriel Brondanw yn cynrychioli trobwynt yn fy nhaith fel artist. Rwy'n archwilio themâu newydd ac yn ailedrych ar rai cynharach. Mae Patrwm Annisgwyl yn ymwneud â chysoni'r ffigurol a'r haniaethol.
Rwyf wedi cael fy swyno ers tro gan batrymau, yn rhai naturiol ac wedi'u gwneud gan ddyn. Tan yn ddiweddar, roedd patrymau yn eilradd neu'n addurniadol yn fy mhaentiadau. Nawr, maent yn rhan annatod o'r cyfansoddiad.
Ar y pwynt yma yn fy mywyd, rwy’n gwerthfawrogi sut mae patrymau (annisgwyl) o adleoli daearyddol a phrofiad o ddiwylliannau gwahanol wedi dylanwadu ar fy ymarfer creadigol. Mae anturiaethau hanner oes o fyw dramor a dychwelyd yn ddiweddar i'm mamwlad bellach yn dylanwadu ar eu gilydd.
Mae Patrwm Annisgwyl hefyd yn nodi newid mewn deunyddiau: roeddwn i'n arfer peintio ar gynfas yn bennaf. Mae'r gweithiau a ddangosir yma wedi'u gwneud ar ddeunyddiau caled, ac mae rhai ohonynt wedi'u hail-bwrpasu. Mae hyn yn fy ngalluogi i arbrofi gydag ystod ehangach o gyfryngau: plastr, pigmentau, blawd llif, plisgyn wyau a blew ceffyl. Mae symud oddi wrth y cynfas hefyd yn perthnasu â'm gwaith cynharach fel cerflunydd.
Mae catalog o’r un teitl a’r arddangosfa i’w gael, sy’n dangos datblygiad fy ngwaith a fy syniadau dros y ddegawd ddiwethaf. Mae'n cynnwys traethawd gan Dr Harry Heuser, a bydd ar werth yn ystod cyfnod yr arddangosfa.
Eleanor Brooks: Bywyd mewn Portreadau
28 Mehefin – 10 Awst 2025
Fel dilyniant i arddangosfa 2018 o’i thirweddau, ac i ddathlu pen-blwydd ei genedigaeth ym 1925, mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y portreadau a wnaeth Eleanor Brooks yn ystod ei gyrfa a, thrwyddynt, yn adrodd hanes ei bywyd rhyfeddol fel artist a mam. Mae’r detholiad yn cynnwys portreadau cynnar a beintiwyd pan oedd Eleanor yn yr ysgol gelf ar ddiwedd y 1940au, portreadau agos-atoch o’i theulu ei hun a’r merched au pair a fu’n byw gyda nhw, a phaentiadau o’r llu o ferched ysgol a ddysgodd yn Llundain cyn symud i fyw i Gymru yn barhaol yn 1990. Byddai’r arddangosfa’n anghyflawn heb bortreadau o Mrs Spinks, y ddynas glanhau a gnociodd ar ddrws Eleanor yn 1967. Dros gyfnod o saith mlynedd, gwnaeth Eleanor bortreadau o’r wraig hynnod hon trwy bron pob cyfrwng y gellir ei ddychmygu, yn ddau a thri dimensiwn. Yn y rhain, ac yn ei holl waith, yr hyn sy’n disgleirio mor syfrdanol yw cariad Eleanor at bobl a’i rhyfeddod at y byd yn gyffredinol.