5-12 Ebrill – Y Gromen, Portmeirion
Bydd Rose Fulbright yn Artist Preswyl yn y Gromen ym Mhentref Portmeirion yn ystod gwyliau’r pasg, a bydd yn cynnig gweithdy celf addurniadol yma ym Mhlas Brondanw ar y 7fed o Ebrill. Am fwy o wybodaeth am y gweithdy, cliciwch yma:
Cafodd Rose Fulbright, artist gweledol a dylunydd, ei henwi gan British Vogue fel ‘The Girl Born to Design’. Mae hi'n wyres i Susan Williams-Ellis. Cafodd ei magu mewn teulu arbennig o artistig gyda mam yn gynllunydd a thad yn anthropolegydd, magwyd Rose wedi’i hamgylchynu gan ddiwydiant cerameg y Crochendai, yn ogystal â harddwch naturiol Portmeirion a Gogledd Cymru, ac mae ganddi gysylltiad dwfn â ffurf, lliw a phatrwm.
Mae Rose wedi bod yn ddylunydd, ac yn gyfarwyddwr creadigol ar y brand dylunio Rose Fulbright ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n byw ac yn gweithio yn Beijing am bedair blynedd, ac yna ym Mrwsel am bum mlynedd. Mae hi bellach yn byw yn Llundain ac wedi canolbwyntio’n fwy trylwyr ar ei ymarfer celf ers 2022, gan greu casgliadau o baentiadau, dodrefn wedi’u paentio a ffabrigau.
Mae Rose yn peintio ar ddefnydd, cynfas a dodrefn vintage, ac yn ystod y cyfnod preswyl, bydd yn adnewyddu ac yn ail-ddychmygu hen ddodrefn nad oes eu hangen mwyach ym mythynnod y Pentref. Gan roi ‘ail fywyd’ i’r eitemau hyn, bydd yn paentio darnau gyda motiffau wedi’u hysbrydoli gan baentiadau ei nain Susan o bantomeim yn ogystal ag elfennau pensaernïol mympwyol a chyfriniol a ddefnyddir gan Clough o amgylch y Pentref.
Bydd darnau a grëwyd yn ystod y cyfnod preswyl hwn yn cael eu harddangos yn y Gromen, fel pont i’r arddangosfeydd a’r digwyddiadau sy’n ymateb i’r thema ‘Trawsnewid’ ym Mhlas Brondanw, yn ogystal ag arddangosfa unigol o waith Rose yn Ffair Addurnol Llundain yn Battersea, Llundain ym mis Mai.
Cefnogir y cyfnod preswyl hwn gan Annie Sloan, y brand paent sialc Prydeinig, sydd wedi darparu paent, brwshys a gorffeniadau i'w defnyddio gan Rose.
Ebrill ac Awst 2024 - Plas Brondanw
Gwneuthurwr printiau o Fryste yw Steph Renshaw. Mae hi'n defnyddio dulliau argraffu traddodiadol, intaglio a cherfwedd i greu gwaith celf diddorol a chyffyrddol wedi'i ysbrydoli gan fywyd gwyllt a byd natur. Mae gwaith Steph yn taro cydbwysedd rhwng realaeth a chyfyngiadau neu ganlyniadau annisgwyl y broses argraffu.
Yn ei cholagraffau mae hi’n manteisio ar natur arbrofol y cyfrwng ac yn ei gyfuno â sychbwynt i wneud printiau yn llawn dyfnder a gwead. Mae ei thoriadau leino yn cyfuno realaeth â gwneud marciau dyfeisgar i greu delweddau trawiadol sy’n cynnig cipluniau o’r byd naturiol.
Mae Steph wedi bod yn ymweld ag Eryri ers ei phlentyndod, gan feithrin cysylltiadau emosiynol agos â’r dirwedd a’r bywyd gwyllt yno. Mae ganddi ddiddordeb a chariad at natur, ar ôl cwblhau gradd mewn Bioleg Amgylcheddol o Brifysgol Aberystwyth. Mae hi'n cael ei denu at y gelfyddyd danddwr a wnaeth Susan Williams-Ellis. Bydd Steph yn seilio ei gwaith yn ystod ei chyfnod preswyl ar yr amgylchoedd hardd, naturiol gyda ffocws arbennig ar ddŵr yn yr amgylchedd. Mae Steph yn gobeithio dilyn esiampl Susan ac ymgolli’n llwyr yn yr amgylcheddau hyn. Bydd yn dogfennu mewn print, y ffurfiau naturiol a'r lliwiau a geir yno. Mae Steph yn ceisio cynnwys ei phrofiad dynol ei hun yn ei gwaith celf, gan fynegi ymdeimlad o le yn y byd naturiol a chysylltiad ag ef.