Eilian Williams
Gwaith Newydd
07/09/2024 – 20/10/2024
Bydd enillydd gwobr artist sy'n dod i'r amlwg 2023 yn arddangos detholiad o waith newydd, yn cynnwys peintiadau tirwedd, portreadau a gwaith 3D.
Bu paratoi ar gyfer yr arddangosfa hon yn broses o hunan addysgu araf. Golyga ddod wyneb yn wyneb â dewisiadau-pa lwybyr, pa ddull, pa gyfrwng-a`r sylweddoliad fod un cwestiwn hanfodol i`r cyfan, o`m safbwynt i beth bynnag,-sef beth yw pwrpas celf mewn byd tymhestlog sydd ar lawer cyfri`n mynd a`i phen iddi. Rwy`n braslunio pobol ddwywaith yr wythnos, ac mae hynny`n ddisgyblaeth.Ond yn y pendraw, mae`n gorfod bod yn fwy na pheintio lluniau lliwgar i`w crogi ar y pared. Bu artistiaid yn gwneud hynny ers miloedd o flynyddoedd. Dwi wedi dod i`r sylweddoliad fod deimensiwn wleidyddol galed ac onest yn gorfod brigo i`r wyneb o dro i dro, bod rhywun yn mynegi`i safbwynt, a bod hynny`n gallu codi crachan ar faterion o bwys.
Steph Renshaw
Ymsuddo
07/09/2024 – 20/10/2024
Mae’r gwneuthurwr printiau Steph Renshaw wedi bod yn archwilio celf tanddwr Susan Williams-Ellis ac mae’n defnyddio hyn fel man cychwyn ar gyfer ei gwaith ei hun.
Mae Ymsuddo yn ddathliad o’r byd naturiol (dyfrllyd) ac o ddull unigryw Susan o’i ddarlunio.
Mae hefyd yn archwiliad o dechnegau a deunyddiau argraffu. Bydd argraffiadau’n cael eu harddangos wedi'u gwneud gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnegau traddodiadol gan gynnwys ysgythru, printiau leino a Cholagraffau.
Ymsuddo fydd y tro cyntaf i Steph arddangos ei phapur naturiol wedi’i wneud â llaw, wedi’i greu gan ddefnyddio dyfrllys a gynaeafwyd o’r pwll yn ei gardd ym Mryste. Mae’r deunydd ddiddorol hwn yn colli ei liw yng ngolau’r haul ac felly bydd yn newid dros gyfnod yr arddangosfa.
Susan King - Edau
13/07/2024 - 01/09/2024
Mae Susan King wedi bod yn treulio amser gyda thecstilau hynafol Affricanaidd, yn astudio'r patrwm, y gwead a'r lliwiau sydd ynddynt. Mae hyn wedi ei hysbrydoli i greu corff o waith sy'n cynnwys deialog rhwng gwehyddu, argraffu a phaentio.
Y nod yw i’r syniadau ddatblygu heb bwrpas penodol, gan ganiatáu proses digymelliant mynegiannol, gydag un cyfrwng yn symud i'r llall ar daith elfennol.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys cyfres o groglenni wal wedi'u gwehyddu a'u hargraffu, cynfas wedi'i baentio a gwaith wedi ei fframio.
John Rowlands - Jazz
13/07/2024 - 01/09/2024
Mae John Rowlands yn byrfyfyrio a chwarae ar y berthynas rhwng cerddoriaeth bur a chelf weledol haniaethol - gydag awgrym o’r darluniadol yn ei ddefnydd o batrymau allweddellau.
Pantomeim / Tu Ôl I'r Mwgwd - Wanda a David Garner
11/05/2024 – 07/07/2024
Yn y mil naw chwe degau, creodd Susan Williams-Ellis gyfres o lestri o'r enw 'Cymreriadau Pantomeim', oedd yn seiliedig ar ddarluniau o gymeriadau theatr tegan a gynhyrchwyd gan gwmi Pollock’s yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd y darluniau hyn yn sbardun i Wanda a David, aeth â nhw ar daith o'r pantomeim cynnar i ystyriaeth fwy difrifol o'r masgiau rydyn ni i gyd yn eu gwisgo.
Bydd yr arddangosfa derfynol yn brofiad difyr i bob oed.
Agored 2024 - Trawsffurfiad
09/03/2024 – 05/05/2024
Thema arddangosfa Agored blwyddyn yma yw ‘Trawsffurfiad’, ac mae gwaith bron i gant o wahanol artistiaid i’w gweld yn y sioe, pob un wedi ymateb i’r thema yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae yma olygfeydd hunllefus, tirweddau heddychlon, hunain bortreadau, cerfluniau, gwaith naratif, gwaith haniaethol, gwaith ffigyrol. Mae’r themâu sydd dan sylw yn cynnwys yr amgylchedd, datblygiad personnol, breuddwydion, hunllefau, trais, rhyfel, cylchoedd bywyd, harddwch natur a hyblygrwydd deunyddiau. Does dim geiriau all ddisgrifio’r amrywiaeth anhygoel a’r talent sydd ar weld yma, mae’n rhaid i chi ddod yma i weld! Darganfod mwy
Arddangosfa Agored Ifanc 2023 - Awyrol
25/11/2023 – 17/02/2024
Mae arddangosfa agored ifanc Plas Brondanw ar agor i blant a phobl ifanc o dan 18 oed
Y Crib a’r Gogor - Christine Mills and Siw Thomas
23/09/2023 – 11/11/2023
Mae Christine Mills a Siw Thomas yn artistiaid preswyl yn Plas Brondanw ar gyfer haf 2023. Mae nhw’n gweithio gyda’u gilydd i archwilio archif y teulu Williams-Ellis gan ganolbwyntio’n bennaf ar syniadau a gwaith Amabel Williams-Ellis, cwm Croesor a’i bobl.
Bydd gweithdai cyhoeddus yn ganolog i’w gwaith ac yn dylanwadu ar y gwaith mae nhw’n ei greu. Bydd y cyfnod preswyl yn ysbrydoliaeth ar gyfer arddangosfa o’u gwaith yn mis Medi 2023.
Breuddwyd gorsiog - Manon Awst
15/07/2023- 16/09/2023
Dyma arddangosfa gan Manon Awst sy’n cyfuno cerfluniau, gosodiadau ac ymchwil greadigol ar gorsydd Môn a Thraeth Mawr, y foryd golledig sy’n estyn rhwng môr a mynydd o flaen Plas Brondanw.
Patrymau o Natur - Thérèse Durrant
14/05/2023 – 09/07/2023
Mae gwaith Thérèse yn ceisio dod â’r tu allan i mewn, gan greu teimlad o ryddid a chysylltiad llesol â byd natur. Mae ei hoffter o fotiffau a phatrymau ailadroddus yn fath o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, a byddai'r gwaith y mae'n ei gynhyrchu yn addas ar gyfer ffabrig neu ddylunio mewnol.
Mae hi'n peintio gan ddefnyddio dyfrlliw, inciau a phaent acrylic, ac yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau gwneud marciau i greu celf cyfrwng cymysg, gan gynnwys weithiau collage, argraffu, tecstilau, pwytho â llaw a pheiriant.
Tirnodau II - Philippa Anderson
14/05/2023 – 09/07/2023
Mae delweddau haniaethol yn datgelu gwrthdaro rhwng harddwch a dadfeiliad. Mae rhamantiaeth glasurol ac ôl-foderniaeth yn cyfuno â nodweddion sy’n gwrthdaro mewn lluniadu a phaentio. Mae delweddau'n datblygu trwy gyfres o weithredoedd greddfol, ac mae defnydd ailadroddus o ffilmiau tenau o inc, paent a deunyddiau lluniadu yn rhoi dyfnder i'r iaith bersonol hon. Yn aml, caiff haenau eu tynnu trwy sgrwbio neu grafu, gan ddatgelu palimpsest o farciau wedi pylu a phenderfyniadau blaenorol, gan amlygu'r mannau bregus a thyner yn y gwaith.
At ddiben yr arddangosfa hon ym Mhlas Brondanw bydd rhai gweithiau a fydd yn cael eu harddangos yn cael eu creu gan gyfeirio'n uniongyrchol at y tân a darodd y tŷ ym 1951. Bydd gweithiau eraill yn adlewyrchu thema adfeiliad a dadfeiliad lleoedd dychmygol. Trwy ddefnyddio ei phalet a’i phrosesau unigryw ei hun mae Philippa yn anelu at gynhyrchu corff o waith sy’n arddangos naratif cydlynol drwy’r arddangosfa.
Sian Hughes
Medi – Tachwedd 2022
Deilliodd Darnau Mewn Amser: Llif o grant Ymchwil a Datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2019 a ddefnyddiodd Sian Hughes i archwilio cefnwlad Traeth Mawr, Porthmadog, pan oedd yn aber llanw, cyn adeiladu’r Cob, a rôl Afon Dwyryd yn dod â llechi i'r môr. Yn y gosodiad hwn mynegir themâu llif, ynysoedd a mannau croesi, trwy borslen a latecs. Daw marciau o'r dirwedd, sydd wedi'u gwreiddio yn eu priodweddau tryloyw cain, yn fyw trwy oleuadau i’n gwahodd ni i ail-ystyried pethau cyfarwydd.
Bywyd Llonydd - Menna Angharad
Ebrill – Gorffennaf 2022
Astudiodd Menna Angharad llysieueg cyn hyfforddi yn Ysgol Gelf Byam Shaw yn LLundain ac wedyn ennill MA mewn Celf Gain o Brifysgol Caerdydd. Mae hi'n paentio tirluniau a gweithiau bywyd llonnydd mewn olew ar gynfasau llin, yn gweithio'n uniongyrchol o fywyd i greu delweddau a harddwch unigryw sy'n dathlu natur gwerthfawr a difyr pethau pob dydd.
Hon oedd yr arddangosfa Agored a gynlluniwyd ar gyfer 2020, a agorodd am un diwrnod ac yna gorfod cau oherwydd cyfnod clo COVID 19. Er gwaetha’r cyfyngiadau a gorfod gohirio’r agoriad am ddwy flynedd, roedd yr arddangosfa yn un amrywiol, bywiog ac yn ffordd bendigedig o ail-lansio ein gweithgareddau ar ôl cyfnod o aeafgysgu.
Dyma dair artist gwahanol iawn. Mae Sian yn gwneud peintiadau mynegiannol mewn oel o dirweddau lleol, anifeiliaid a phortreadau o bobl sy'n agos ati. Mae Julie yn gweithio mewn ffelt yn ogystal ac ar bapur, gydag amrywiaeth o ddarnau tecstil a dyfrliw i'w weld yn yr arddangosfa. Mae Diane yn gwneud peintiadau lliwgar o bobl wedi eu hysbrydoli gan y mudiad ol-argraffiadol.
Arddangosfa o ddau hanner, graddedig ac ôl-raddedig gan bum artist o'r cwrs Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor. Roedd gwaith yr artistiaid yn amrywio’n fawr gan greu sioe eclectig o beintio, cerflunwaith, gosodiadau a digidol.
Ganed Sarah Nechamkin yn 1917. Cyfarfu Susan Williams-Ellis a hi yn Ysgol Gelf Chelsea pan oedden nhw'n fyfyrwyr yno yn y 1930au, ac fe arhoson nhw'n ffrindiau ar hyd eu hoes. Roedd Sarah yn byw yn Ibiza, ble treuliodd Susan a'i gŵr Euan lawer o amser hefyd. Mae'n fraint gan Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis i fod wedi etifeddu llawer o'i gwaith pan fu hi farw yn 2017. Hon yw'r arddangosfa sylweddol cyntaf o'i gwaith ers iddi farw.