Dydd Sadwrn cynta'r mis: 10am - 11:30am
Pwrpas y clwb yw i rhoi cyfle i’r plant drio gwahanol ddeunyddiau, gweithio efo artistiaid profiadol a datblygu eu ymarfer celf eu hunain.
Bydd rhai sesiynau yn cael eu harwain gan staff Plas Brondanw, ac eraill gan artistiaid gwadd.
Rydym yn anelu'r clwb ar blant dros 6 oed, mae croeso mawr i rhai hŷn yn eu harddegau, mi wnawn ein gorau i addasu'r gweithgareddau i siwtio'r gynulleidfa.
Rydym yn awr yn gweithredu polisi 'talu fel y gallwch chi' ar draws ein holl ddigwyddiadau. Ar gyfer y clwb celf ifanc gallwch ddewis talu £4.50, £5.50 neu £7.50 y plentyn. Mae'n bwysig i ni bod y clwb yn fforddiadwy i deuluoedd lleol, ond os allech chi dalu'r pris uwch, ystyriwch wneud hynny os gwelwch yn dda, gan fod y clwb yn costio llawer mwy i'w rhedeg nac y byddwn ni byth yn ei wneud yn ôl o werthu tocynnau.
2 Tachwedd 2024: Arallfydion Gludwaith gydag Seran Dolma
I gydfynd a'r thema 'Gofod' ar gyfer Arddangosfa Agored Ifanc 2025, byddwn yn creu bodau o fydoedd eraill, gan ddefnyddio cylchgronau a phapur lliw i'w torri a'u gludo. Rydym yn gobeithio cadw'r gweithiau hyn i'w arddangos yn yr arddangosfa fydd yn agor yn mis Ionawr, ond byddwn yn falch o'u dychwelyd ar ôl i'r arddangosfa gau yn mis Chwefror