Mae'n fraint gan Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis i fod wedi etifeddu llawer o'i gwaith pan fu hi farw yn 2017.
Ganed Sarah Nechamkin yn 1917. Cyfarfu Susan Williams-Ellis a hi yn Ysgol Gelf Chelsea pan oedden nhw'n fyfyrwyr yno yn y 1930au, ac fe arhoson nhw'n ffrindiau ar hyd eu hoes. Roedd Sarah yn byw yn Ibiza, ble treuliodd Susan a'i gŵr Euan lawer o amser hefyd.
Ganed Sarah yn Lloegr, ond o Rwsia oedd ei theulu yn wreiddiol, gyda’r ddwy genhedlaeth o’i blaen hi yn artistiaid, felly doedd hi fawr o syndod fod Sarah wedi dewis dilyn y trywydd honno hefyd. Astudiodd yn Chelsea ar yr un pryd a Susan, a bu’r ddwy yn cael eu dysgu gan fawrion fel Henry Moore, Robert Medley, Graham Sutherland a Ceri Richards. Yn hwyrach ymlaen, bu Sarah yn dysgu yn Chelsea ei hun, gan helpu llawer o artistiaid eraill yn eu gyrfaoedd hwythau. Fodd bynnag, roedd yn well ganddi greu ei gwaith ei hunain na dysgu, ac o’r 1940au cynnar tan 1965, bu’n canolbwyntio ar gelf graffeg, gan gynnwys darluniau ar gyfer llyfrau a gwaith cynllunio. Gwnaeth lawer o waith i wasg Curwen, yn cynnwys papur patrymog a ddefnyddiwyd gan Lyfrau Penguin ar gyfer cloriau llyfrau a sgorau cerddoriaeth. Ymwelodd ac Ibiza yn 1961, ac yn fuan wedyn cyfarfu a’i gwr, Pepe Ballesteros oedd yn frodor o’r ynys. Roedd tirwedd a phensaernïaeth traddodiadol Ibiza yn ysbrydoliaeth yn ei gwaith, ac o’r amser honno ymlaen, gallodd ganolbwyntio ei hegni ar beintio. Tueddai Sarah i beintio tirluniau, yn aml iawn gyda phentrefi neu anheddau gwasgaredig, a byddai weithiau’n cynnwys ffigyrau yn y tirwedd. Byddai hefyd yn peintio golygfeydd tu mewn, gyda planhigion, blodau, ffrwythau, cathod a ffigyrau. Roedd y rhan helaeth o’i gwaith yn canolbwyntio ar Ibiza, rhannau eraill o Sbaen a Morocco. Y peth sy’n nodedig am ei gwaith hi yw’r lliwiau claear, y goleuni, a’r techneg y perffeithiodd dros y blynyddoedd o ddefnyddio paent tempera, sy’n dryloyw, i ychwanegu haenau o liw ar ben eu gilydd i greu dyfnder, cysgodion, goleuni a ffurf. Mae naws freuddweudiol ei phaentiadau yn mynegi syniadau’r artist am ddelfryd o heddwch a phrydferthwch yr oedd hi’n ei ganfod yn ei phwnc. Roedd hi a Susan yn rhannu’r hoffter yma o bethau hardd, ac yn diddori yn llawer o’r un pynciau.
Cafwyd arddangosfeydd o waith Sarah o’r 60au ymlaen yng Nghymru, Ibiza, California a Llundain. Mae ei gwaith i’w ganfod mewn casgliadau preifat trwy Ewrop a gogledd America ac mae nifer o’i pheintiadau ar ddangos mewn ystafelloedd a bythynnod yn Portmeirion. Mae un o lithograffau “Y Fforwm, Rhufain” yn adran ysgythriadau Oriel y Tate yn Llundain. Yn 2006, cyhoeddwyd llyfr gan Sarah “Birds of Ibiza” (wedi ei olygu gan Martin Davies) gan wasg Barbury.