Mae’r gerddi a’r caffi yn cael eu rhedeg gan gorff gwahanol i’r tŷ, sef Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis
Ar gyfer mynediad i’r gerddi gweler cloughwilliamsellis.org/Gerddi
Ar gyfer gwybodaeth ac oriau agor y caffi gweler cloughwilliamsellis.org/Caffi
I weld beth sydd ymlaen yn Plas Brondanw, edrychwch ar y tudalenau arddangosfeydd a digwyddiadau
Ni chaniateir cŵn yn y tŷ, ar wahân i gŵn tywys
Mae’r tŷ ar agor dydd Mercher – dydd Sul 10:30-4:00 trwy’r flwyddyn, hefyd ar Wyliau Banc, ond rydym ar gau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae’r gerddi ar agor pob diwrnod, trwy’r flwyddyn 10-4. Pan mae’r caffi ar gau, rhaid talu am fynediad i’r bocs ar gefn y giât.
Mae’r caffi ar agor o Pasg tan ddiwedd Medi, 10-4, dydd Mawrth tan dydd Sul.
Mae maes parcio i’r tŷ, y gerddi a’r caffi o fewn dau funud o gerdded i’r safle. Mae lle parcio i bobl anabl yn union gyferbyn â'r brif giât. Codir £2 am barcio beth bynnag fo hyd eich arhosiad, a bydd yn cael ei ad-dalu os byddwch yn talu am fynediad i'r ardd.
CyfeiriadY Curadur Plas Brondanw, |
Ffôn: 01766 770590 Ebost: Facebook: Instagram: |
Mae gennym amrywiaeth o anrhegion, cardiau, printiau a llyfrau ar gael i'w prynu yn ein siop. Mae rhai o’r rhain yn ddyluniadau a gomisiynwyd yn arbennig yn seiliedig ar waith Susan Williams-Ellis, wedi’u dethol a’u haddasu i’w defnyddio gan ei hwyres Rose Fulbright, sydd hefyd yn ddylunydd o fri. Rydym hefyd yn cydweithio â Purely Portmeirion, arbenigwyr mewn hen ddarnau o Grochenwaith Portmeirion, ac mae gennym amrywiaeth o’r eitemau hyn ar werth yn ein siop. Mae ein llyfrau yn gymysgedd o'n cyhoeddiadau ein hunain a llyfrau sydd o ddiddordeb lleol.
Gweler isod am ddetholiad o'r eitemau sydd ar werth. Enghreifftiau yn unig yw’r llestri o’r math o bethau sydd ar werth, nid y darnau penodol yma sydd i’w cael. Yn anffodus nid ydym yn gallu cynnig gwerthiant ar-lein ar hyn o bryd.