Mae gan y teulu wreiddiau dwfn yn yr ardal, gyda chysylltiadau ag Anwyliaid y Parc, er ymddengys i Ellis gael ei ddefnyddio fel yr enw teuluol mewn cenedlaethau diweddarach. Mae coeden deulu yn bodoli sy’n mynd yr holl ffordd yn ôl at Gruffudd ap Cynnan, brenin Gwynedd (1055-1137). Gellir olrhain gwreiddiau’r enw Williams-Ellis i Jane Bulgin, a oedd yn aeres i Miss Catherine Williams, Brondanw. Un o amodau ei hetifeddiaeth oedd iddi briodi ei chefnder y Parch. Thomas Ellis a bod eu disgynyddion i ddwyn yr enw Williams-Ellis. Magwyd ei mab John Williams-Ellis (taid Clough) ym Mrondanw yn y 1830au, ond roedd tad Clough, John Clough Williams-Ellis yn byw yn Glasfryn ger Pwllheli, lle mae rhai o’i ddisgynyddion yn dal i fod hyd heddiw. Roedd Clough yn bedwerydd o chwe mab, a rhoddodd ei dad Plas Brondanw iddo yn 1904.
Priododd Clough ag Amabel Strachey yn 1915, a magwyd eu tri phlentyn ym Mhlas Brondanw. Fodd bynnag, merched oedd y ddwy blentyn a oroesodd, felly nid oes yr un o ddisgynyddion Clough ac Amabel yn dwyn yr enw Williams-Ellis. Fodd bynnag, mae rhai ohonynt yn dal i fyw yn yr ardal, ac mae nifer yn dal i ymwneud yn fawr â rhedeg y sefydliadau elusennol a sefydlwyd yn sgil gyrfaoedd Clough a Susan Williams-Ellis, a gyda Portmeirion.
28 Mai 1883 – 9 Ebrill 1978
Clough Williams-Ellis oedd y pensaer a greodd bentref Eidalaidd Portmeirion ar arfordir Gogledd Cymru. Esboniodd: 'Roeddwn i eisiau dangos nad oes angen i ecsbloetio olygu ysbeilio, ei bod hi hyd yn oed yn bosibl gwella harddwch safle trwy adeiladu'n briodol, i ddangos, cyn belled ag yr oedd pentrefi ymwelwyr glan môr yn y cwestiwn, y gallai cwrteisi pensaernïol wneud synnwyr busnes hefyd.’ Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o gymhelliant gwaelodol Clough; roedd yn ymgyrchydd angerddol ac uchel ei gloch dros yr amgylchedd, gyda barn isel o ddatblygwyr difeddwl: ‘Yn wir, mae’n aderyn sâl sy’n baeddu ei nyth ei hun, ac nid yn unig yn sâl ond yn wyrdroëdig os yw’n llawenhau yn y baeddu.’
Er ei fod wedi tyfu i fyny gyda phedwar brawd, mae Clough yn cofio ei hun fel plentyn oedd yn mwynhau ei gwmni ei hun: ‘Roeddwn i’n hoffi gwneud pethau ar fy mhen fy hun a bod ar fy mhen fy hun a phe bai modd cadw fy ngweithgareddau’n gyfrinachol, gorau oll.’ Nid oedd yn hoffi addysg ffurfiol, rhoddodd y gorau i Coleg y Drindod, Caergrawnt, a pherswadiodd y Gymdeithas Bensaernïol i'w gymryd ymlaen fel myfyriwr. Ni arhosodd yn hir yno ychwaith, gan ddewis yn lle hynny dderbyn comisiwn cyflogedig, a oedd, yn ffodus, yn nodi dechrau gyrfa lwyddiannus.
Yn 1908, yn 25 oed, rhoddwyd Plas Brondanw i Clough gan ei dad. Roedd y Plas, bryd hynny, wedi'i rannu'n denementau, a'i osod i amryw o denantiaid, ac eithrio'r seler: 'Fe es i ati ar unwaith i greu fflat bach y gallwn i ehangu'n raddol ohono ... Arogl y naddion pren a'r distemper ffres wrth i mi sgramblo o gwmpas gyda channwyll ... yr arogl yn cymysgu’n ogoneddus cyn bo hir â chig moch wedi'i ffrio ar y tân yn yr hen fragdy, hardd a bythgofiadwy.'
Ym 1915, tra ar wyliau o wasanaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, priododd Clough â'r awdur Amabel Strachey. Drwy gydol y 1920au a’r 30au bu’n rhedeg ei fusnes pensaernïol o Lundain, lle roedd cysylltiadau llenyddol Amabel hefyd wedi’u seilio. Roedd ennill arian yn hanfodol i gynnal eu teulu oedd yn tyfu (tri o blant rhwng 1918 a 1923) ac i ariannu mentrau amrywiol Clough ym Mrondanw, lle roedd dylunio a thirlunio’r ardd yn mynd a’i fryd. Mae canlyniad ei ymdrech yn amlwg i'w weld hyd heddiw.
Ond roedd gan Clough brosiect mwy ar y gweill: ‘Roeddwn i wedi penderfynu rhyw ddydd i gynllunio ac adeiladu fy syniad fy hun o’r pentref delfrydol ar fy safle delfrydol fy hun. Doedd sut i ddod o hyd i safle o'r fath neu pan ddaethpwyd o hyd iddo, sut i'w gaffael, neu sut i ariannu ei ddatblygiad ar ôl ei brynu, yn ystyriaethau nad oeddent mewn unrhyw ffordd yn tarfu ar fy mreuddwydion.'
Ym 1925 gwelodd ffordd i wireddu ei uchelgais pensaernïol. Prynodd Aber Iâ oddi wrth ei Ewythr (oedd yn berchen Castell Deudraeth), a'i ailenwi'n Portmeirion, a dechreuodd adeiladu ei Bentref. Cymerodd hanner canrif i'w gwblhau, ac am y gamp hon y cofir Clough amlaf. Er hynny, ystyriai bob amser mai Brondanw oedd ei gartref: ‘er mwyn Brondanw y bues i’n gweithio ac yn ymdrechu, er ei mwyn yn bennaf y gobeithiais i ffynnu.’
Gwybodaeth fywgraffyddol ychwanegol am Clough Williams-Ellis.
plasbrondanw.com/Yr-Ymddiriedolaeth
portmeirion.cymru/about/clough-williams-ellis
Fideo byr am Bortmeirion, gyda sylwebaeth gan Clough:
facebook.com/watch/?v=545343186845081
Hen fideo di-sain o Clough ac eraill, wedi'u saethu yn Portmeirion a Plas Brondanw, gyda chipolwg byr ar Tan Lan ar y diwedd:
youtube.com/watch?v=z8GSf-_wa04
Italy in Wales (1962) ffilm byr gan Pathé i hyrwyddo’r lle
10 Mai 1894 – 27 Awst 1984
Roedd Amabel yn ferch i John StLoe Strachey, perchennog a golygydd papur newydd y Spectator rhwng 1887 a 1925, ac Amy (Simpson gynt). Ganed hi yn Guildford, Surrey. Ei brawd oedd John Strachey, AS Llafur a gweinidog cabinet yn llywodraeth Clement Atlee. Roedd Amabel a John ill dau yn sosialwyr pybyr ac yn aelodau gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol. Bu Amabel yn golygu tudalennau llenyddiaeth y Spectator am gyfnod, ac roedd hi a John yn disgwyl y byddent yn etifeddu’r cyhoeddiad yn y pen draw, fodd bynnag penderfynodd eu tad werthu yn hytrach na chaniatáu i’w bapur ddisgyn i ddwylo ei blant asgell chwith radical. Bu Amabel yn hynod weithgar yn wleidyddol drwy gydol ei gyrfa, a bu’n gweithio ar amryw gyhoeddiadau gwleidyddol gan gynnwys Left Review, y Socialist Review, y Miner a Left News.
Priododd Clough Williams-Ellis ac Amabel Strachey ym 1915, yn ystod y rhyfel byd cyntaf, pan oedd Clough yn gwasanaethu fel Is-gapten yn y Gwarchodlu Cymreig, ac Amabel yn gweithio fel nyrs Cymorth Gwirfoddol Neilltuol yn nhŷ ei rhieni, Newlands Corner, yn Surrey, a oedd wedi cael ei hawlio fel ysbyty milwrol.
Yn ogystal â’i gwaith gwleidyddol, ysgrifennodd Amabel nofelau, llyfrau i blant ar wyddoniaeth a hanes yn ogystal â chasgliadau nodedig o chwedlau gwerin, y bu’n eu casglu yn y maes yn ogystal â’u dethol gan awduron eraill. Golygodd nifer o gasgliadau o ysgrifennu ffuglen wyddonol, ac ysgrifennodd ambell stori fer ei hun yn y genre hwnnw hefyd.
Mae ei llyfr cyhoeddedig cyntaf ‘An Anatomy of Poetry’ yn dal i fod yn glasur bron i 100 mlynedd yn ddiweddarach. Mae ei phamffledi sy’n rhybuddio am beryglon Natsïaeth yn cael eu harddangos yn Amgueddfa’r Holocost yn Llundain. Roedd cyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar o “radical writing for children” yn cynnwys darn bywiog ganddi, ac mae ei gwaith ffeministaidd ar ôl y rhyfel The Art of being a Woman wedi bod o ddiddordeb academaidd yn ddiweddar (gweler y sgwrs isod, gan Jayne Sharrat).
Bu i Clough ac Amabel fyw bywydau hir ac amrywiol gyda'i gilydd mewn partneriaeth a barhaodd am fwy na 60 mlynedd. Roedd y ddau yn awduron toreithiog ac fe wnaethont ysgrifennu sawl llyfr gyda’i gilydd, gan gynnwys ‘The History of the Tank Corps’, a ‘The Pleasures of Architecture’.
Mae rhai, ond nid y cyfan, o weithiau Amabel i’w cael yn y llyfrgell ym Mhlas Brondanw, ymhlith ei chasgliad ei hun o lyfrau, sy’n cynnwys llyfrau ar ystod amrywiol o bynciau o wleidyddiaeth i lenyddiaeth plant a ffuglen i oedolion. Mae rhestr o lyfrgell Plas Brondanw ar gael ar gais.
I gael rhagor o wybodaeth am fywyd gwleidyddol ac ymgyrchu Amabel, gweler y sgwrs hon gan Dr Merfyn Jones:
Amabel Williams-Ellis - The Radical in the Plas. A talk by Dr Merfyn Jones - YouTube
Sgwrs fer gan Jayne Sharrat am Amabel a ‘The Art of Being a Woman’
youtube.com/watch?v=OAnwj96qa5c
Adolygiad o ‘The Big Firm’ by Amabel Williams-Ellis
I gael rhagor o wybodaeth am Newlands Corner, gweler y sgwrs hon, gan Trevor Brook:
alburyhistory.org.uk/media/Newlands%20Corner%20e.mp4
Mae llyfryddiaeth o waith ffuglen wyddonol Amabel ar gael yma:
6 Mehefin 1918 - 27 Tachwedd 2007
Susan Williams-Ellis oedd plentyn hynaf Clough ac Amabel Williams-Ellis. Fe'i cofir yn bennaf fel crëwr a dylunydd Crochenwaith Portmeirion, a gychwynnodd hi a'i gŵr Euan Cooper-Willis (m.1945) yn 1960. Ganed iddynt bedwar o blant, Anwyl (g.1946), Siân (g.1947), Menna (g.1957) a Robin (g.1958).
Susan Williams-Ellis (1918-2007) oedd plentyn hynaf Clough ac Amabel Williams-Ellis. Fe'i cofir yn bennaf fel crëwr a dylunydd Crochenwaith Portmeirion, a gychwynnodd hi a'i gŵr Euan Cooper-Willis (m.1945) yn 1960. Ganed iddynt bedwar o blant, Anwyl (g.1946), Siân (g.1947), Menna (g.1957) a Robin (g.1958).
Yn blentyn, byddai nain Susan ar ochr ei mam, ‘Gigi’ yn mynd â hi i amgueddfeydd ac orielau celf. Yn ei henaint, datgelodd Susan:
‘Mae edrych ar luniau fel cyffur, mae’n effeithio mor gryf ar rhywun fel ei fod bron yn annioddefol ac mae’n rhaid stopio cyn iddo fynd yn ormod i ymdopi ag ef. Efallai fy mod yn cilio oddi wrtho ychydig y dyddiau hyn. Bron fel pe na bawn i’n ddigon cryf i ddioddef y fath deimladau llethol.’
Ysbrydolwyd Susan hefyd gan fflora a ffawna, yn enwedig y môr, a bywyd morol. Yn oedolyn ifanc dyfeisiodd ddull o dynnu lluniau o dan y dŵr wrth edrych ar bysgod a chreaduriaid eraill, gan ddefnyddio ffilm plastig fyddai fel arfer yn cael ei ddefnyddio mewn drafftio pensaernïol, clipfwrdd a chyfuniad o baent wyneb seimlyd a phensil plwm. Cafodd Susan gomisiwn yn y 1940au hwyr gan Puffin Books i ddarlunio llyfr o’r enw ‘Shore Life in Britain’ gan Richard Elmhirst. Yn anffodus, ni chyrhaeddodd y llyfr byth i’r wasg, ond mae’r corff o waith a ddeilliodd ohono – yn bennaf mewn printiau gouache, a lithograffau – ymhlith gwaith gorau Susan. Yn ddiweddarach, o’r 1960au, galluogodd llwyddiant Crochenwaith Portmeirion iddi i deithio. Daeth snorcelu mewn dyfroedd trofannol yn hoff beth ganddi. Cynhyrchodd Susan gannoedd o ddarluniau o bysgod, wedi'u adnabod a’u datblygu gyda chymorth ei chasgliad aruthrol o gyfeirlyfrau.
Pan sefydlodd Susan ac Euan Grochendy Portmeirion, cafodd gyfle i ddatblygu ei dawn fel dylunydd, ac i ehangu ei diddordeb mewn pethau mecanyddol. Roedd ganddi afael gynhenid ar sut roedd pethau'n gweithio, a doedd hi’n poeni dim am gymryd ffatri drosodd mewn diwydiant oedd ar y pryd yn edrych i fod yn edwino. Roedd ganddi reddf i weld ei chyfle. Mewn pamffled a ddyluniodd tua 1950 ysgrifennodd:
‘Mae gan artistiaid creadigol dawnus lawer rhy ychydig i’w ddweud ar ffurf pethau bob dydd, ac eto nhw ddylai gael eu cyflogi i ddylunio’r pethau cartref hyfryd y gall masgynhyrchu eu cyflwyno wedyn o fewn cyrraedd pawb.'
Mae’r gosodiad hwn yn amlinellu’n berffaith beth oedd agwedd Susan at ei diwydiant, a’i chyfraniad at ffurfio chwaeth yn yr ugeinfed ganrif.
22 Awst 1919 - 30 Rhagfyr 2009
Merch ieuengaf Clough ac Amabel Williams-Ellis oedd Charlotte. Roedd ganddi ddiddordeb mewn pethau naturiol erioed, a daeth yn wyddonydd, gan gwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Rhydychen ac yna doethuriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt yn ystod y rhyfel. Yma cyfarfu ac yna priododd â milwr o Seland Newydd o’r enw Lindsay Wallace a oedd hefyd yn cwblhau ei ddoethuriaeth yno tra ar wyliau o'r llynges. Ym 1946 teithiodd i Seland Newydd ar long filwyr wedi'i haddasu gyda gwragedd rhyfel eraill, ac ymgartrefodd yno am weddill ei hoes. Roedd Charlotte yn gadwraethwr pwysig ac yn ymgyrchydd dros heddwch yn ei gwlad fabwysiedig, a chafodd ei chydnabod yn 1994 trwy dderbyn doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Waikato.
Mae'r canlynol yn ddyfyniad wedi'i olygu o'r achlysur hwnnw:
Cyfeiriad ar gyfer Dr Charlotte Wallace, am radd Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Waikato, graddio 1994:
“Mae hi wedi codi ymwybyddiaeth cenedlaethau olynol o bobl Seland Newydd mewn materion o bwysigrwydd amgylcheddol, ymhell cyn i’r farn gyhoeddus fod yn gefndir cefnogol i’r fath ymgyrchoedd". (Gweler isod am restr o'r sefydliadau amgylcheddol y bu'n ymwneud â nhw).
Bu’n gweithio i sefydlu Prifysgol Waikato, a bu’n dysgu sŵoleg, geneteg ac esblygiad mewn ystod eang o gyrsiau yn yr Adran Gwyddorau Biolegol, yn ogystal â chwrs rhyngddisgyblaethol ar hanes gwyddoniaeth. Disgrifiwyd ei hymdriniaeth a’i phwnc yn ysgolheigaidd, eglur, brwdfrydig, ac yn aml yn ffraeth iawn. Rhoddodd ei diddordeb cryf mewn prosesau esblygiadol (a welir yn ei llyfr ym 1967, A Study in Evolution) bersbectif eang iddi.
Pan sefydlwyd yr Ysgol Wyddoniaeth, dychwelodd at ei hymchwil gyda brwdfrydedd, a dechreuodd astudiaeth hynod ac eang o eneteg y malwoden ddŵr croyw Potamopyrgus antipodarum sydd wedi esgor ar nifer o bapurau mewn cyfnodolion rhyngwladol.
Mae hi wedi cael ei disgrifio’n ddiymhongar ac yn swil gyda digonedd o synnwyr cyffredin, synnwyr digrifwch a ffraethineb parod, y math o berson sy’n gweithio’n dawel ond yn egniol, yn aml tra bod eraill yn cael y clod.”
Ar ben ei holl swyddi academaidd a sefydliadol, magodd Charlotte bump o blant, pob un ohonynt yn ei chofio’n annwyl ac yn dryw iawn iddi.
Bu hefyd yn aelod hirdymor a gweithgar o nifer o gyrff a mudiadau yn Seland Newydd:
15 Ionawr 1923 - 13 Mawrth 1944
Roedd Christopher neu ‘Kitto’ fel y’i hadwaenid o fewn y teulu yn 2il Lefftenant gyda’r Gwarchodlu Traed Cymreig pan laddwyd ef ar Fawrth 13, 1944 yn yr Eidal cyn Brwydr Monte Cassino yn yr Ail Ryfel Byd. Claddwyd ef ym Mynwent Ryfel Minturno yn Provincia di Latina, Lazio, yr Eidal. Gan nad oes neb sy’n fyw heddiw yn ei gofio, nid yw’n hawdd cyfansoddi bywgraffiad, ac eto y mae peth gwybodaeth dameidiog i'w gael o archif y teulu. Dywed Amabel yn ei hunangofiant ‘All Stracheys are Cousins’
“Ond mae’r ail-fyw hyn yn rhywbeth yr wyf yn gwrthod yn llwyr ei wneud ar gyfer y digwyddiad nesaf yn fy mywyd. Dyma oedd marwolaeth Christopher pan lansiwyd yr Ail Ffrynt yn yr Eidal. Bu farw mewn lle o'r enw Monte Purgatorio. Ni ddylai neb ofyn i mi ail-fyw hyn ac, fel y dywedaf, dyna mae ysgrifennu am eich gorffennol eich hun mor aml yn ei olygu.
Felly gadewch i ebargofiant ei orchuddio i’r darllenydd, os byth i’r awdur.”
Yn yr un modd mae Clough yn ei hunangofiant, ‘Architect Errant’ yn disgrifio sut y daeth y newyddion am farwolaeth Christopher yn fuan ar ôl priodas ei chwaer Charlotte:
“Roedd y cadoediad felly yn gyfnod o bleser ac o boen annioddefol bron. Yn fuan cawsom wyrion a wyresau i ychwanegu at y pleser. Fe benderfynon ni gan ein bod ni, rhieni Christopher yn fyw, y dylen ni geisio bod felly yn llawn, a chadw’r clwyf i ni ein hunain.”
Doedden nhw ddim yn rhai i arddel eu galar yn gyhoeddus, ond mae’n wybyddus o fewn y teulu bod marwolaeth Christopher wedi effeithio’n ddwfn ar Clough, Amabel a’u merched, fel cymaint o deuluoedd eraill mewn profedigaeth oherwydd rhyfel.
Ar wahân i'r atgofion hyn o'i farwolaeth, nid oes llawer wedi goroesi i ddangos pa fath o berson oedd Christopher na sut y byddai ei ddiddordebau wedi datblygu pe bai wedi byw. Mae'n debyg bod hyn yn bennaf oherwydd tân 1951 a ddinistriodd gynnwys Plas Brondanw.
Fodd bynnag, mae ychydig o lythyrau gan Kitto wedi goroesi yn yr archif, rhai wedi'u hysgrifennu o ysgol Dartington, y bu'n mynychu gyda'i chwiorydd am gyfnod. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â materion ymarferol megis eitemau a anghofiwyd wrth bacio neu gost ychwanegol annisgwyl am fagiau ar y daith trên, ceisiadau am arian i brynu crysau a diolch am eitemau a anfonwyd. Fodd bynnag, mae dau lythyr ychydig yn hirach wedi'u hysgrifennu o gwmpas yr amser yr oedd yn ymweld ac yn gweithio ar Sgogwm, gwarchodfa adar yr Ynys yn Sir Benfro. Mae'n sôn am adar, llyfrau, ceir, a'r bobl o'i gwmpas, ac mae'n ymddangos ei fod yn datblygu diddordeb yn y gwyddorau biolegol. Dyma ddyfyniad o un ohonyn nhw:
“Treuliais yr holl brynhawn yn Botanegu gyda Lack sy'n gwybod dim (hyd yn oed llai na fi) a Tom Turin, ffrind iddo o Plymouth, sy'n gwybod bron popeth. Aethon ni o gwmpas yn casglu pethau yn y coed a’r caeau a doedd dim un peth roedden ni’n ei ddarganfod nad oedd yn ei wybod, fel arfer yr enwau Saesneg a Lladin…”
(Lack yma oedd yr adarydd David Lack, y bu Susan yn gweithio gydag ef yn ddiweddarach ar arddangosfa ar gyfer Gŵyl Prydain.) Mae naws y llythyrau hyn yn sgyrsiol, yn anffurfiol ac yn hwyliog. Mae llythyr cynharach gan Christopher iau, llai hyderus, yn cwyno ei fod wedi diflasu yn yr ysgol ac yn hiraethu am gael dod adref.
Mae yna hefyd lythyr diddorol dyddiedig Awst 10, 39 oddi wrth Clough, sy'n darllen fel a ganlyn:
“Fy Annwyl Kitto
Nid wyf yn tybio y bydd hwn byth yn dy gyrraedd di - ond gan fod ein cebl i dy le yn Efrog Newydd wedi'i ddychwelyd wedi'i farcio "Wedi gadael am Ddinas Mecsico heb adael unrhyw gyfeiriad" mae'n ymddangos nad oes unrhyw bosibilrwydd arall o gyfathrebu â thi, heb law – yn annhebygol – drwy’r Conswl Prydeinig.
Os nad wyt ti'n gwybod dy gyfeiriad go iawn mae'n ddoeth defnyddio “Poste Restante”. Beth bynnag hyn i gyd oherwydd dy fod ddwywaith yn dy lythyr yn sôn am gyrraedd yn ôl yma ar Dachwedd 11eg - tra wrth gwrs mae dy dymor Caergrawnt yn cychwyn ar Hydref 8fed ac os na fyddi di'n ymddangos, mae'n debyg y byddi di'n colli dy le. Rwy'n siŵr mai cam-argraffiad oedd o, fel petai, ond gan ei fod mor bwysig ni ddylai fod unrhyw gamgymeriad - fe benderfynon ni ei fod yn werth cebl. Mae’n debyg dy fod yn gwybod go iawn, dim ond ei fod wedi rhoi ofn i ni!
Falch iawn o lythyr hir braf arall a'r stwff crand wedi cyrraedd am y ffair dwi'n falch iawn o'i gael. Dim mwy nawr gan nad wyf yn disgwyl y bydd hwn yn dy gyrraedd di mewn gwirionedd! Bendithion. CWE"
Wyddwn ni ddim os gyrhaeddodd y neges yma, ond gwyddom fod Christopher wedi dod adref mewn pryd i fynychu Coleg y Brenin, Caergrawnt. Dyna lle y cyfarfu ag Euan Cooper-Willis, y bu’n rhannu ystafell ag ef. Daeth y ddau yn ffrindiau, ac yn ddiweddarach priododd Euan chwaer Christopher, Susan. Astudiodd Christopher Wyddoniaeth Foesol (term am beth fyddai heddiw yn cael ei alw’n athroniaeth), a dyfynnir ei ysgrif goffa, a gyhoeddwyd yn adroddiad blynyddol 1945 King’s College yma:
“Fe oedd aelod ieuengaf ei flwyddyn, ac roedd bob amser yn ifanc ei ysbryd, ond dangosodd addewid mawr, a gwnaeth argraff ddofn gyda’i ddiddordeb didwyll, anhunanol mewn materion cymdeithasol a rhyngwladol. Hefyd gwnaeth ffrindiau da. Wedi pasio ei Tripos yn dda, ar ddiwedd ei ail flwyddyn, gyda Adran 1af o'r 2il Ddosbarth, ymunodd â'r Gwarchodlu Cymreig, a bu'n gwasanaethu yn yr Eidal fel Is-gapten pan, ar noson Mawrth 16-17, 1944, cafodd ei glwyfo a chymerwyd ef yn garcharor wrth arwain patrôl. Mae'n rhaid ei fod wedi marw yn fuan wedyn o’i glwyfau, oherwydd cafwyd hyd i'w fedd flwyddyn yn ddiweddarach, yn agos i’r fan ble’i cipiwyd. Roedd yn 22 oed pan fu farw.”
Hefyd yn y bwndel o lythrau y cyfeirir ato uchod mae lluniad llinell rhydd gyda’r enw ‘Kitto’ wedi’i ysgrifennu oddi tano. Credwn mai llun o Christopher yw hwn, ond nid yw'r arlunydd yn hysbys.
Susan Charlotte & Kitto