Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Rydym yn cynnal gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol yn Plas Brondanw er mwyn hybu’r celfyddydau yn yr ardal, ac i gynnig cyfleon i bobl o bob oed i gymdeithasu a mynegi eu hunain yn greadigol. Rydym yn cynnal rhaglen o sgyrsiau, gweithdai, cyrsiau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.Cadwch lygad ar y tudalenau hyn neu ar ein cyfrifon ar y gwefannau cymdeithasol i gael gwybod beth sy’n dod i fynnu.

Am rhagor o fanylion, neu i gadw lle ar ddigwyddiad cysylltwch a ni ar 01766770590 neu post@susanwilliamsellis.org.Does dim rhaid cadw lle ar gyfer agoriadau arddangosfeydd, ond mae llefydd yn gyfyngedig ar weithdai a sgyrsiau, felly cofiwch gadw lle, hyd yn oed pan mae’r digwyddiad am ddim.

Ffurflen Hepgor Neu Gostwng Taliad

Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:

2023: Awyrol
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr

Digwyddiadau i ddod

Peint a Sgwrs



Peint a Sgwrs

Nos Iau cyntaf pob mis
7-8pm

Dewch i ymarfer eich cymraeg! Tra bod ein tafarn lleol ar gau (fydd gobeithio ddim am llawer hirach) mae Plas Brondanw yn falch o groesawu grwp o ddysgwyr Cymraeg i ymarfer unwaith y mis, o dan arweiniad Osian Rhys o menter iaith Gwynedd. Ebostiwch osian@menteriaithgwynedd.cymru am rhagor o wybodaeth. Dewch a'ch diod eich hunain.

Clwb Celf Ifanc Brondanw


Clwb Celf Ifanc Brondanw
Dydd Sadwrn cynta'r mis.
Amser : 10 - 11:30am

Pwrpas y clwb yw i rhoi cyfle i’r plant drio gwahanol ddeunyddiau, gweithio efo artistiaid profiadol a datblygu eu ymarfer celf eu hunain.

Rydym yn anelu'r clwb ar blant dros 6 oed, mae croeso mawr i rhai hŷn yn eu harddegau, mi wnawn ein gorau i addasu'r gweithgareddau i siwtio'r gynulleidfa.

Darganfod mwy


Darlunio o Fywyd


Darlunio o Fywyd

Dyddiadau 2025: 10 Ionawr, 7 Chwefror, 7 Mawrth
Amser: 6-8pm

Bydd model, easels a drawing boards yn cael eu darparu, ond bydd angen i chi ddod a papur a deunyddiau darlunio eich hun. Ni fydd tiwtor yn bresennol ar gyfer y sesiynau hyn, mae’n gyfle i chi ymarfer eich sgiliau darlunio a chefnogi eich gilydd fel artistiaid.

Darganfod mwy


Hanes Cynar Cymru


Cwrs Hanes Cynnar Cymru 410-900 CE (Cyfnod Cyffredin) Gyda James Berry

Dechrau: Dydd Iau 16eg o Ionawr am 6 wythnos
Amser: 10 am – 12pm

Cofrestrwch

Cyfres o 6 sesiwn achrededig dwy awr o hyd a fydd yn edrych ar hanes Cymru o'r adeg gwagu Prydain gan y Rhufeiniaid yn 410 CE hyd at ddechrau Oes y Tywysogion tua 900 CE.

1: Cymru yn 410 CE. - 2: Chwedl a myth - pwy oedd Arthur?.
3: Y Tiroedd Coll. - 4:Y Teyrnasoedd.
5: Y Gymdeithas Gymraeg. - 6: Y Mawr a'r Da.


Tir a thafod"


Cwrs: Tir a Thafod gyda James Berry

Dechrau: 16eg o Ionawr 2025 am 6 wythnos
Amser: 1-3pm

Cofrestrwch

Mae hwn yn gwrs sydd wedi'i gynllinio i gyflwyno bobl i Dirwedd Cymru drwy astudio'r iaith a ddefnyddir i'w ddisgrifio.

Mae hwn yn gwrs addas a'r gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg felly fydd yn cael ei gyflwyno yn ddwyieithog. Bydd lefel y ddarpariaeth ddwyieithog honno yn dibynnu ar sgiliau iaith y dysgwyr


Bob Owen Croesor


Bob Owen Croesor

Sgwrs Saesneg gan Len Jones

12 Chwefror 2025: 7pm

Archebu

Roedd Bob Owen yn gymeriad dihafal Cymreig yn yr 20fed ganrif, a gyflawnodd lawer iawn er ei ddechreuadau gwladaidd. Ni chafodd addysg uwch ffurfiol, wedi gadael yr ysgol yn dair ar ddeg oed, ond daeth yn gasglwr llyfrau heb ei ail. Adnabyddid ef fel achyddwr gorau ei genhedlaeth, gan arbenigo ar hanes teulu Cymreig a hanes gwladfawyr Cymreig yn America. Yn ddarlithydd poblogaidd a difyr iawn, teithiodd ymhell ac agos i draddodi sgyrsiau i gynulleidfaoedd llawn dop. Yr oedd hefyd yn llenor aruthrol, gyda chyfraniadau i lawer o bapurau newydd a chylchgronau. Enillodd ei draethodau wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac y mae ei lythyrau yn chwedlonol am eu ffraethineb. Derbyniodd radd M.A. anrhydedd o Brifysgol Cymru (yr ieuengaf erioed yn 47 oed) ac yn ddiweddarach yr O.B.E. am ei gyfraniad i hanes a llenyddiaeth Cymru. Yn bersonoliaeth liwgar a thanllyd, daeth yn gymeriad chwedlonol yn ei oes ei hun.

Magwyd Len Jones yng Nghroesor, ac mae wedi datblygu diddordeb arbennig yn Bob Owen ers iddo ymddeol o yrfa ym myd addysg. Mae wedi traddodi’r sgwrs hon yn Gymraeg ddwywaith ym Mhlas Brondanw, a nifer o weithiau mewn lleoliadau eraill, cymaint yw’r diddordeb yn etifeddiaeth Bob Owen. Cytunodd i gyfieithu'r sgwrs i'r Saesneg er budd y gymuned ddi-Gymraeg.