Hawdd yw adnabod y gwelliannau a wnaeth Clough Williams-Ellis ei hun i’r tŷ a etifeddodd gan ei gyndadau’r Williamsiaid (adain y bwtres, y bont ar y fflat uchaf a’r logia). Mae Plas Brondanw wedi tyfu fesul tipyn dros y 400 mlynedd ddiwethaf. Mae ei adeiledd o waith maen cain yn ffurfio grŵp bychan, sy’n ffitio’n gywrain i’w lle ar ochr y bryn.
Mae grât a bwa llydan y lle tân (cegin fferm Duduraidd yn wreiddiol, ac ystafell fwyta wedi hynny) yn ffurfio’r canolbwynt a adeiladwyd o’i gwmpas. Ar ochr y cwm, datblygodd tŵr rhwng dwy adain sy’n dyddio o 1660, ac sy’n edrych dros y clos hir o’r 18fed ganrif. Islaw, ar yr un lefel â’r ardd isaf, mae bragdy a ffynnon; mae gan y prif ystafelloedd uchod (a ddaeth yn llyfrgell ar y llawr gwaelod ac ystafell gyfarch ar y llawr cyntaf) ffenestri o’r 18fed ganrif wedi’u gosod yn wal y talcen sy’n gofnod o’r esblygiad hwn.
Yn ymestyn ymhellach i’r gogledd-ddwyrain gan ffurfio blaen hir i’r cwm a chyda pedwerydd llawr ymestynnol, dyma’r fflat llawr uchaf lle ailddechreuodd Clough ac Amabel Williams-Ellis eu bywyd ym Mhlas Brondanw ar ôl i dân ei ddinistrio yn 1951. Cafodd tu mewn y prif dŷ isod, a’r grisiau carreg, eu hailosod yn 1952-53.
Yn y 1930au, cafwyd rhagor o ystafelloedd trwy ychwanegu tŵr y bwtres, wedi’i orffen yn gynnil mewn gwaith maen rwbel. Cafodd y tŷ ei ymestyn yn y 18fed ganrif hefyd, gydag uned lydan ar wahân yn y gogledd-ddwyrain, a ffenestri (wedi’u blocio bellach) yn edrych tua’r Wyddfa. Cafodd hwn ei ailfodelu yn dri bwthyn gweithwyr yn hwyr yn yr 19eg ganrif, pan ychwanegwyd y talcen grisiog.
Richard Haslam, 2018