Deiseb Heddwch Menywod Cymru: Plwyf Llanfrothen
24 Tachwedd 2024
Dewch i droedio ar hyd rhan o drywydd y Ddeiseb ym mhentref Garreg a chlywed mwy am stori'r Ddeiseb hyd yn hyn. Oddi yno, byddwn yn cerdded efo'n gilydd i Blas Brondanw am baned a sgwrs.
Ydi'ch neiniau neu ferched eraill yn eich teulu chi wedi arwyddo? Neu beth am y fenyw oedd yn byw yn eich ty chi yn 1923?
Bydd y digwyddiad yma trwy gyfrwng y gymraeg. Nid oes angen archebu ymlaen llaw, dim ond ymuno â ni ar y diwrnod.
Ar 5 Ebrill 2023 cafodd Deiseb Heddwch Menywod Cymru, a arwyddwyd gan bron i 400,000 o fenywod gan mlynedd yn ôl, ei dychwelyd i Gymru, er mwyn nodi canmlwyddiant yr ymdrech gwrth-ryfel Gymreig a arweinwyd gan fenywod.
Chwiliwch yma: www.llyfrgell.cymru/deisebheddwch