Mae'r dechneg gwneud printiau hon yn ymwneud â lliw a gwead. Nid oes angen sgiliau lluniadu i wneud printiau hyfryd. Mae'r broses hon yn creu canlyniadau uniongyrchol, llachar, lliwgar. Bydd gennych chi gasgliad hyfryd o brintiau i fynd adref gyda chi erbyn diwedd y gweithdy.
Does dim angen profiad blaenorol, dewch i gael chwarae! Mae hon yn broses argraffu wirioneddol arbrofol a bydd y tiwtor Steph Renshaw yn eich arwain trwy bob cam ac yn dangos ffyrdd i chi archwilio gwahanol dechnegau incio.