11 Rhagfyr 2024: 6-8:30 pm
Noson o greu monolog hefo Aled Jones Williams. Awdur monologau fel Sundance, Y Dyn Gwyn, Pridd, Pryd Fuo Kathleen Ferrier Farw. Drwy gyflwyno nifer o ddelweddau a eill wedyn hybu’r dychymyg i ganfod cymeriad a sefyllfa a fydd efallai yn esgor ar fonolog. Mwynhau, beiddgarwch a gadael i’r dychymyg fynd yn rhemp, peidio chwarae’n saff fydd y nod.
Bydd y gweithdy yma trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rdym yn gweithredu polisi ‘talu fel y gallwch chi’ gyda thocynnau fforddiadwy yn £20, rhai canolig yn £30 a rhai uwch yn £35. Dewiswch y pris yr ydych chi’n medru ei fforddio.