Dyma arddangosfa gan Manon Awst sy’n cyfuno cerfluniau, gosodiadau ac ymchwil greadigol ar gorsydd Môn a Thraeth Mawr, y foryd golledig sy’n estyn rhwng môr a mynydd o flaen Plas Brondanw.
Artist o Fôn yw Manon sy’n byw yng Nghaernarfon ac yn creu gwaith sy’n plethu naratifau ecolegol a daearegol, ac yn archwilio ein perthynas efo tirweddau dros amser. Astudiodd Bensaernïaeth yn Mhrifysgol Caergrawnt ac mae hi wrthi’n gwneud ei doethuriaeth ym Mangor. Yn gynharach eleni derbyniodd wobr am ei gwaith gan yr Henry Moore Foundation.
Dyma un o uchafbwyntiau yng nghyfnod ymchwil a chreu Manon fel rhan o’i phrosiect ‘Cerfluniau Corsiog’, sydd wedi ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor.
Mae’r arddangosfa yn parhau hyd at yr 16eg o Fedi a bydd sgwrs rhwng yr artist a Sarah Pogoda ar y 19eg o Awst.